Sioe 40/45 munud i bypedau, actorion a theatr gysgod. Wedi ei hanelu at deuluoedd. Ar daith adeg Calangaeaf/Tachwedd 2018.
Awdur a Chyfarwyddwr: Angela Roberts Cast /pypedwyr: Mirain Fflur, Efa Dyfan, Llyr Edwards Cynllunydd: Efa Dyfan Criw: Owain Dafydd Close-Thomas, Dic Ben. Tydi Taid ddim yma mwyach – ond, yng nghistiau'r atig, mae ei straeon yno'n disgwyl i gael eu darganfod. Wrth i'r plant gyrraedd y neuadd yn eu gwisgoedd Calangaea, mae troliau sioe bypedau symudol Taid yn troi'n ffair o fynwentydd dychrynllyd, cysgodion iasoer a chypyrddau o ysbrydion swnllyd - a'r plant yn setlo i wrando ar stori o'r enw… DYGWYL Y MEIRW! Sioe i blant yw DYGWYL Y MEIRW sy’n ddathliad o chwedlau ein hynafiaid, o gylch bywyd, ac o sut mae hogan fach yn dod i delerau a marwolaeth ei Thaid. Drwy gymeriadau traddodiadol Cymreig fel yr Hwch Ddu Gota, y Ladi Wen a Jac y Lantarn, mae Gwen yn darganfod bywyd newydd yn straeon ei Thaid, a dyfodol fel storiwr ei hun. Drwy fiwsig, hiwmor, goleuadau iasoer, triciau theatrig, pypedau cysgod ac ysbrydion hedegog, mae'r sioe yn gorffen ar nodyn hapus, gobeithiol. FESTIVAL OF THE DEAD A winter’s tale from Puppet Company ‘Black Star and Monkey’. Taid isn’t here any more – but, up in the attic cupboards, his stories are ready to be discovered…. A celebration of our ancestors and Celtic Festival of the Dead traditions – told with the help of Welsh Halloween characters the Black Sow, the White Lady and Jack the Lantern. Puppets, actors, magic, music - and spooky shadows…. Come in Halloween costume! 4-12 and families. Welsh with English notes. |
templedau pypedau cysgod - Shadow Puppet templates
Dyma dempledau i chi argraffu adref a'u torri allan. Defnyddiwch 'hole puncher' i greu tyllau yn y llefydd priodol, wedyn rhoi y darnau gyda'i gilydd efo pins i greu pypedau cysgod eich hun.
Templates for you to print at home or in school. Cut out carefully, then use a hole puncher and fix all the pieces together with paper fasteners. Attach kebab sticks or wooden chopsticks to the back of your shadow puppets with tape and wait for evening. Place a table lamp near a light coloured wall, switch on some spooky music - then make your puppets leap, dance, scream and roar!
Templates for you to print at home or in school. Cut out carefully, then use a hole puncher and fix all the pieces together with paper fasteners. Attach kebab sticks or wooden chopsticks to the back of your shadow puppets with tape and wait for evening. Place a table lamp near a light coloured wall, switch on some spooky music - then make your puppets leap, dance, scream and roar!